Ty Cymorth Cymraeg
  • hafan
  • am yr apêl
    • aelodau'r pwyllgor codi arian ac ymddiriedolwyr
    • wynne evans, ein noddwr
    • sut allwch chi helpu
    • cysylltu â ni
  • newyddion diweddaraf
  • digwyddiadau ar y gweill
    • Mawrth 2020
    • Tachwedd 2020
  • rhoddi
  • archif
    • newyddion mwy
    • hazel powell
    • wynne evans, ein noddwr
    • stori am ardd
  • ffotos / fideos
    • the new hospice 2014
    • their light still shines at NBGW
  • yr hospis
    • gwasanaethau
    • staff
    • sylwadau gan gleifion
    • ffindiwch ni
  • external links

wynne evans, noddwr


Picture
Mae Apêl Hosbis Tŷ Cymorth yn bles ac yn freintiedig fod Wynne Evans wedi cytuno i fod yn Noddwr yr Apêl.

Fe'i ganwyd Wynne yng Nghaerfyrddin, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Pentrepoeth ac wedyn yn Ysgol Queen Elizabeth Cambria cyn symud ymlaen i astudio yn Ysgol Gerddoriaeth a Drama Guildhall a’r Stiwdio Opera Genedlaethol.

Mae Wynne yn ymddiriedolwr o Ymddiriedolaeth Elizabeth Evans. Fe wnaeth ei fam, Elizabeth Evans MBE seilio a rhedeg Opera Ieuenctid Caerfyrddin a Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin am 25 mlynedd, gyda chefnogaeth gan ei dad, David. Bu farw yn 2004 ac ar ôl hynny fe wnaeth Wynne a’i ddau frawd sefydlu’r Ymddiriedolaeth.

Roedd tad Wynne, David, yn glaf yn y Nhy Cymorth, ac fe wnaeth ddarganfod ei fod yn lle calonogol a chysurlon. Byddai’n siarad am ei amser yn yr hosbis bob dydd. Mae Wynne wrth ei fodd i fod yn ymwneud â Thy Cymorth fel Noddwr ac yn teimlo’n ddyledus i’r staff a gwirfoddolwyr y lle hynod hwn.

Mae ymddangosiadau operataidd Wynne Evans wedi mynd ag ef i dai opera mwyaf y DU ac i dai opera byd enwog dramor. Mae’n perfformio’n rheolaidd yn y Royal Opera House Covent Garden ac fel prif denor gyda Opera Genedlaethol Cymru mae wedi perfformio rolau ganolog mewn ystod o weithiau operataidd a ddarlledir yn aml gan y BBC ac S4C. Mae wedi ymddangos drwy’r holl DU, gyda chwmniau megis Opera North, English National Opera, Scottish Opera, Classical Opera Company, Chelsea Opera Group, Opera Northern Ireland, Glyndebourne Festival, ac Almeida Opera.

Mae canu o flaen miliynau ar gyfer ymgyrch hysbysebu teledu wedi sicrhau ei fod yn enw cyfarwydd. Fe gyrhaeddodd albwm cyntaf, “A Song in My Heart” a’i ail albwm “Wynne” gyrraedd y brig yn y siartiau clasurol. Mae ganddo ei sioeau ei hun ar BBC Radio Wales, Classic FM ac S4C ac mae hefyd wedi cyflwyno ar gyfer BBC TV. Yn 2014, roedd Wynne ar flaen ymgyrch hysbysebu ar gyfer darllediad BBC Wales o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan ddysgu’r genedl i ganu “Calon Lan”. Mae’n hen gyfarwydd â’r cae rygbi, gan iddo ymateb yn enwog i Haka Seland Newydd yn 2004, ac yna aeth ymlaen i ymddangos ar y cae 30 o weithiau. Fe ganodd ochr yn ochr a’r archseren Bryn Terfel yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn haf 2014 ac ymddangosodd yn “Sweeney Todd, the Demon Barber of Fleet Street” gan Stephen Sondheim. Fe wnaeth hefyd chwarae rôl Scaramuccio yn “Ariadne and Naxos” Strauss, rhan o dymor 2013/2014 yn y Royal Opera House Covent Garden.

Cafodd Wynne ei urddo yn Orsedd y Beirdd yn 2012 ac yn Gymrodor er Anrhydedd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2013. Hefyd, fe wnaeth Ei Mawrhydi y Frenhines ei wneud yn aelod o’r Venerable Order of St John yn 2008.

Ty Cymorth is your local Hospice. Please support our fundraising efforts.
Proudly powered by Weebly