stori am ardd
Roedd gosod allan yr ardd yn Nhŷ Cymorth ar y safle Ysbyty Glangwili yn ganolog i nodau a phwrpas yr uned gofal liniarol arbenigol hwn. Roedd i fod yn hafan o harddwch, ymlacio a thawelwch, ac os yn briodol, yn ymateb i ddiddordeb personol neu gyngor meddygol, yn gyfle ar gyfer therapi gwella bywyd.
Cadwyd elfennau gorau’r ardd wreiddiol wrth iddi gael ei hail-leoli. Canolbwynt yr ardd newydd y “Goeden Bywyd”, sffêr fetel hardd sydd â changhennau sy’n ennyn meddyliau ac atgofion a drysorir gan y cleifion a’u teuluoedd. Mae cam cyntaf yr ardd newydd wedi ei gwblhau ac mae’r cleifion a’r staff yn ei werthfawrogi a’i fwynhau yn fawr iawn. Yn mis Medi 2014, derbyniodd yr ardd y wobr gyntaf yn y categori 'Carmarthen in Bloom - Pride of Place Competition', Dyfarniad y Maer ar gyfer Budd Arbennig. |
Mae hyn o ganlyniad i waith diffuant Mr a Mrs Anthony Howells a’u cynorthwywyr gwirfoddol, sydd wedi gosod glaswellt, plannu llwyni, ffiniau a basgedi hongian, wedi cribinio gro addurnol yn ogystal a phlannu potiau patio a thacluso’r llwybrau. Fe wnaeth Tŷ Llewellyn, sydd drws nesaf, ychwanegu cyffiniau eu gardd hwy i dir y Tŷ Hywel gwreiddiol i fod yn rhan o brosiect gardd y Tŷ Cymorth.
Mae stori yr ardd yn mynd ymlaen. Mae gan Apêl Hosbis Tŷ Cymorth ddyled o ddiolchgarwch i haelioni pobl Caerfyrddin a’r Cylch dros 20 mlynedd o godi elsuen ac rydym yn ceisio eich cymorth unwaith eto. Os ydych yn medru ein helpu ni gyda phorthiant planhigion, compost neu unrhyw lwyni neu flodau yna bydd yn braf i gael clywed ganddoch. Rydym yn ddiolchgar i Mrs. Peggy Howells am ddarparu rhai llwyni ar gyfer yr ardd yn ddiweddar; ac hefyd i nifer o grwpiau / cyfundrefnau sydd wedi addo planhigion / hadau / llwyni pryd maent ar gael. Rydym yn croesawu cyfraniadau, felly ac hoffwn annog garddwyr brwd i gofio am Tŷ Cymorth wrth waredu planhigion. Os ydych yn credu eich bod yn medru helpu’r prosiect garddio mewn unrhyw ffordd, yna ffoniwch Meirion (Cadeirydd yr Apêl) ar 01267 222977, Ann (Is-Gadeirydd) ar 01267 238154 neu Emlyn (Ysgrifennydd) ar 07779 420626 sydd yn medru rhoi gwybod i chi am Gynllun Gwirfoddoli Hywel Dda. Os ydych yn medru gwirfoddoli, mae croeso i chi bob amser. Diolch am eich cefnogaeth. |