Ty Cymorth Cymraeg
  • hafan
  • am yr apêl
    • aelodau'r pwyllgor codi arian ac ymddiriedolwyr
    • wynne evans, ein noddwr
    • sut allwch chi helpu
    • cysylltu â ni
  • newyddion diweddaraf
  • digwyddiadau ar y gweill
    • Rhagfyr 2021
  • rhoddi
  • archif
    • newyddion mwy
    • hazel powell
    • wynne evans, ein noddwr
    • stori am ardd
  • ffotos / fideos
    • the new hospice 2014
    • their light still shines at NBGW
  • yr hospis
    • gwasanaethau
    • staff
    • sylwadau gan gleifion
    • ffindiwch ni
  • external links

ennillydd ein cwis haf

18/10/2017

 
Llongyfarchiadau i Lesley Rotchford, o Penally, Dinbych y Pysgod, ennillydd clir.

Petai unrhywun am wybod atebion i'r cwis, cysylltwch a Meirion Howells os gwelwch yn dda:   aandmhowells@googlemail.com.

Gwnaeth y cwis £1,011.50 mewn arian, a diolchwn i'r gymuned am gefnogi Apel Hosbis Ty Cymorth unwaith eto.

taith gerdded noddedig

16/7/2017

 
Trefnodd dwy aelod o'r Pwyllgor Apel daith noddedig o Borth Tywyn i Lanelli yng Ngorffennaf. Codwyd £473.00.

Diolch i bawb a gymerodd ran a'r rhai a gyfrannodd arian.

dawnsio llinell i godi arian

21/6/2017

 
Picture
Ar ddydd Sadwrn, Mehefin 17, bu tipyn o symud ar y sgwâr tu allan i Costa, Caerfyrddin. Wrth i'r Celtic Liners adloni'r cyhoedd gyda dawnsio llinell, casglodd aelodau Pwyllgor Apêl Hosbis Tŷ Cymorth arian tuag at y gronfa. Bu'n fore llwyddianus iawn, nid yn unig i hyrwyddo gwaith Tŷ Cymorth, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am fodolaeth y grwp dawnsio, gyda aelodau'r cyhoedd yn ymuno ȃ'r grwp, hyd yn oed. Diolch i staff Costa am eu caredigrwydd yn rhoi dŵr i'r dawnswyr ar fore poeth iawn.

Ceir gwybodaeth pellach am waith Tŷ Cymorth ar ein gwefan: www.tycymorth.org.uk a manylion am y Celtic Liners gan pjhowells@live.co.uk

Mae Apȇl Hosbis Tŷ Cymorth yn ddiolchgar am bob dygwyddiad a drefnir g codi arian ac hyrwyddo'r gwaith.

Picture
Picture

cwis 2017

11/5/2017

 
Cymerwch ran yn ein cwis newydd! Yn sicr i ysgogi'r ymennydd a chynnig hwyl ymhlith ffrindiau!
£1.00 y copi; gwobr o £50.00; dyddiad cau: dydd Sadwrn, Medi 12fed. Copiau oddi wrth Mrs. Meirion Howells 01267 222977

cronfa cymunedol co-op

1/5/2017

 
Picture
Diolch i’n Co-op lleol am drefnu cynllun Cronfa Cymunedol sydd wedi codi swm rhyfeddol o £1,897.08 i elusen ein Apêl.

​Gwerthfawrogwn na fuase
’n bosibl heb y rhan a gymerwyd gan aelodau’r Co-op wrth ddewis ein helusen ni. Hoffem ddiolch i bawb ohonoch am helpu i godi swm mor hael.


bore coffi dydd gŵyl dewi sant

1/3/2017

 
Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Uchel Sirydd Dyfed, yn agor ein Bore Coffi Dydd Gŵyl Dewi Sant yng Ngwesty Llwyn Iorwg, Mawrth 1af.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2016

21/11/2016

 
Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar Fehefin 16, a gynhaliwyd yn y Stafell Fwrdd, Ysbyty Glangwili, cyflwynodd Dr. Mark Turtle, ein Llywydd,  Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr ac amlinellodd gwaith Tŷ Cymorth a'r Pwyllgor Apêl dros y flwyddyn. Talodd deyrnged i waith Nan Michael,  Nyrs Hŷn Gofal Dydd Tŷ Cymorth, a fu'n ymddeol yn ddiweddar ar ôl llawer o flynyddoedd yn y swydd. Hefyd, diolchodd bawb oedd â rhyw rhan yn yr Apêl am eu gwaith caled ac ymroddgar.

Cyflwynodd y Trysorydd ei Adroddiad Cyllidol.

Dewiswyd swyddogion: cafodd y swyddogion presennol eu  hail-ethol:

Ymddiriedolwyr
Llywydd a Chadeirydd - Dr Mark Turtle
Trysorydd  yr Ymddiriedolwyr a'r Pwyllgor Apêl - Mr David Harries
Ysgrifennydd - Mrs Rhiannon Owen
 
Pwyllgor Apêl
Cadeirydd - Mrs Ann Morgan
Is-Gadeirydd - Mrs Elizabeth Griffin
Ysgrifennydd - Mr Emlyn Schiavone
Swyddogion i'r Wasg - Mrs Ann Morgan / Mrs Elizabeth Griffin
Gofal y Wefan - Mr Alwyn Jones
​Cynllunydd y Wefan - Mr Andrew Thomas

seremoni gwobrwyo'r uchel siryf dyfed 2016

16/10/2016

 
Mae'n hen draddodiad i'r Uchel Siryf Dyfed ddyfarnu gwobr anrhydeddus i unigolion a sefydliadau  sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i waith elusennol a gwirfoddol yn y gymuned. Eleni, dyfarnwyd gwobr i Apêl Hosbis Tŷ Cymorth i gydnabod  y gwaith da a phwysig a wnaed.

Cyflwynwyd y wobr ar nos Fercher, Hydref 19 eg yng Nghanolfan Hallliwell, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
​
Ystyried y wobr yn fraint gan y Pwyllgor Apȇl.

    newyddion mwy

    archif

    October 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    November 2016
    October 2016

Ty Cymorth is your local Hospice. Please support our fundraising efforts.
Proudly powered by Weebly