Ty Cymorth Cymraeg
  • hafan
  • am yr apêl
    • aelodau'r pwyllgor codi arian ac ymddiriedolwyr
    • wynne evans, ein noddwr
    • sut allwch chi helpu
    • cysylltu â ni
  • newyddion diweddaraf
  • digwyddiadau ar y gweill
    • Mawrth 2020
    • Tachwedd 2020
  • rhoddi
  • archif
    • newyddion mwy
    • hazel powell
    • wynne evans, ein noddwr
    • stori am ardd
  • ffotos / fideos
    • the new hospice 2014
    • their light still shines at NBGW
  • yr hospis
    • gwasanaethau
    • staff
    • sylwadau gan gleifion
    • ffindiwch ni
  • external links

Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM)

20/6/2018

 
Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) ar ddydd Mercher, Mehefin 20fed, 2018 am 6.00 y.h. yn Nhŷ Cymorth. Cyn ethol ein swyddogion am 2018 / 2019, cafwyd adroddiadau gan yr ymddiriedolwyr, y Trysorydd a'r Pwyllgor Apȇl, a derbyniwyd yr adroddiadau hyn gan y cyfarfod.

Bu Dr. Mark Turtle, Llywydd, grynhoi gwaith a phenderfyniadau yr Ymddiriedolwyr dros y flwyddyn, a gosod amcanion ar gyfer ariannu dros y tymor byr / canolig: yn cynnwys cefnogaeth i'r hosbis o fewn y gymuned yn ogystal ag yn Nhŷ Cymorth ei hunan. Adlewyrchir y cam yma'r newid yn niwylliant gofal hosbis yn genedlaethol, gan fod cynnydd yn y nifer o gleifion sy'n dewis cefnogaeth yn eu cartrefi eu hunain gan staff lliniarol arbennigol - ble mae hynny'n addas.
I danlinelli hyn, cymerwyd y penderfyniad i newid enw'r Apȇl, gyda chefnogaeth unfrydol pawb oedd yn presennol yn yr AGM. Cadarnhawyd y newid yma gan y Comisiwn Elusennau.
Rhoddwyd adroddiad gan y Trysorydd. Mae'n bwysig i nodi y rhoddir cefnogaeth ariannol gan yr Apȇl i'r gwasanaeth yn gyffredinol, yn y tymor byr / canolig. Trafodir ceisiadau am ofynion ynglŷn ag eitemau penodol gyda staff Tŷ Cymorth. Mae'n bosib i gael manylion llawn am yr adroddiad ariannol o'r Trysorydd (gweler gwefan Tŷ Cymorth am y manylion cyswllt).

Rhoddwyd adolydiad o waith yr Apȇl a'r ffyrdd y godwyd arian, gan yr Ysgrifennydd.

Ethol Swyddogion

Llywydd a Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr: Dr. Mark Turtle
Trysorydd: David Harris
Ysgifennydd (Ymddiriedolwyr): Elizabeth Griffin
Ysgrifennydd Cofnodion (Ymddiriedolwyr): Ann Morgan
Cadeirydd y Pwyllgor Apȇl: Elizabeth Griffin
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Apȇl: Anne Griffiths
Ysgrifennydd y Pwyllgor Apȇl: Ann Morgan
Cyhoeddusrwydd: Elizabeth Griffin ac Ann Morgan
Gwefan: Andrew Thomas

Ceir manylion pellach am yr AGM gan Ysgrifennydd yr Ymddiriedolwyr, trwy swyddfa Tŷ Cymorth. Ffoniwch: 01267/227101, os gwelwch yn dda.


Comments are closed.

    newyddion diweddaraf

    April 2020
    March 2020
    December 2019
    March 2019
    December 2018
    November 2018
    June 2018
    May 2018
    September 2017

Ty Cymorth is your local Hospice. Please support our fundraising efforts.
Proudly powered by Weebly