
Front: Maria Battle, (Chair of Hywel Dda UHB) with
Elizabeth Griffin (Chair of Tŷ Cymorth Hospice Appeal)
Rear:Members of Tŷ Cymorth staff with David Harris(Treasurer)
![]() Front: Maria Battle, (Chair of Hywel Dda UHB) with Elizabeth Griffin (Chair of Tŷ Cymorth Hospice Appeal) Rear:Members of Tŷ Cymorth staff with David Harris(Treasurer) Ar Ragfyr 14eg yn ei Ffair Nadolig, trosglwyddodd Pwyllgor Abergorlech siec am £1,000 i aelodau Pwyllgor Apêl Gofal Hosbis Ty Cymorth. Rydyn yn ddiolchgar iawn am y rhodd hael yma.
Dymuna’r Apêl ddiolch i pawb a ddangosodd eu cefnogaeth ddydd Mercher 6ed.o Fawrth gyda’u presenoldeb yn y Bore Coffi neu trwy anfon rhoddion. Codwyd swm o £530 sydd yn gyfanswm gwych a gwerthfawrogir yn fawr.
Hoffwn ddiolch hefyd i’r Parch Michael Morris am ddod i agor yr achosiad yn swyddogol ac am ei anerchiad teimladwy a haddysgiadol yn sôn am brofiad ef a’i ddiweddar wraig o’r gwasanaeth a gafwyd gan Tŷ Cymorth a’u staff. ![]() Mae Nan Thomas (canol) wedi bod yn casglu gemwaith am sawl flwyddyn o dan gynllun ailgylchu ac wedi codi dros £1,000 ar gyfer yr Apêl. Rydyn yn gwerthfawrogi ymdrech Nan yn fawr a ddiolchwn iddi am ei dyfalbarhad. ![]() Dangosir yn y llun Sue Nesbitt yn trawsglwyddo siec o £500 i Elizabeth Griffin, Cadierydd Pwyllgor Apêl Tÿ Cymorth, ar ran ei Grwp Cwiltio sy’n cynnal digwyddiadau er mwyn cefnogi elusennau lleol. Gwelir hefyd Maer Caerfyrddin, Y Cyngh. Emlyn Schiavone a agorodd y Bore Coffi Nadolig. Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) ar ddydd Mercher, Mehefin 20fed, 2018 am 6.00 y.h. yn Nhŷ Cymorth. Cyn ethol ein swyddogion am 2018 / 2019, cafwyd adroddiadau gan yr ymddiriedolwyr, y Trysorydd a'r Pwyllgor Apȇl, a derbyniwyd yr adroddiadau hyn gan y cyfarfod.
Bu Dr. Mark Turtle, Llywydd, grynhoi gwaith a phenderfyniadau yr Ymddiriedolwyr dros y flwyddyn, a gosod amcanion ar gyfer ariannu dros y tymor byr / canolig: yn cynnwys cefnogaeth i'r hosbis o fewn y gymuned yn ogystal ag yn Nhŷ Cymorth ei hunan. Adlewyrchir y cam yma'r newid yn niwylliant gofal hosbis yn genedlaethol, gan fod cynnydd yn y nifer o gleifion sy'n dewis cefnogaeth yn eu cartrefi eu hunain gan staff lliniarol arbennigol - ble mae hynny'n addas. I danlinelli hyn, cymerwyd y penderfyniad i newid enw'r Apȇl, gyda chefnogaeth unfrydol pawb oedd yn presennol yn yr AGM. Cadarnhawyd y newid yma gan y Comisiwn Elusennau. Rhoddwyd adroddiad gan y Trysorydd. Mae'n bwysig i nodi y rhoddir cefnogaeth ariannol gan yr Apȇl i'r gwasanaeth yn gyffredinol, yn y tymor byr / canolig. Trafodir ceisiadau am ofynion ynglŷn ag eitemau penodol gyda staff Tŷ Cymorth. Mae'n bosib i gael manylion llawn am yr adroddiad ariannol o'r Trysorydd (gweler gwefan Tŷ Cymorth am y manylion cyswllt). Rhoddwyd adolydiad o waith yr Apȇl a'r ffyrdd y godwyd arian, gan yr Ysgrifennydd. Ethol Swyddogion Llywydd a Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr: Dr. Mark Turtle Trysorydd: David Harris Ysgifennydd (Ymddiriedolwyr): Elizabeth Griffin Ysgrifennydd Cofnodion (Ymddiriedolwyr): Ann Morgan Cadeirydd y Pwyllgor Apȇl: Elizabeth Griffin Is-Gadeirydd y Pwyllgor Apȇl: Anne Griffiths Ysgrifennydd y Pwyllgor Apȇl: Ann Morgan Cyhoeddusrwydd: Elizabeth Griffin ac Ann Morgan Gwefan: Andrew Thomas Ceir manylion pellach am yr AGM gan Ysgrifennydd yr Ymddiriedolwyr, trwy swyddfa Tŷ Cymorth. Ffoniwch: 01267/227101, os gwelwch yn dda. Llawer o ddiolch i Gronfa Cymunedau Lleol Y Co-operative am y nawdd o £1,897.08 a alluogodd Apel Hosbis Ty Cymorth i ddiweddaru ein cyhoeddusrwydd a datblygu cardiau gwybodaeth. Fe'u lansiwyd ar Ddiwrnod Agored Ty Cymorth, Medi 16eg.
|
newyddion diweddaraf
March 2020
|