hazel powell
SEFYDLWRAIG APÊL HOSBIS CAERFYRDDIN A’R CYLCH
Yn 1992, fe wnaeth Hazel Powell gasglu grŵp o bobl oedd a diddordeb mewn sefydlu hosbis ar gyfer Caerfyrddin a’r Cylch. Fel nyrs, a gwraig i Feddyg Teulu, roedd hi’n teimlo fod angen lle i’r rheiny a oedd yn dioddef o gancr a chlefydau difrifol eraill i gael eu cyfeirio ato ar gyfer gofal a chymorth. Dangosodd digon o bobl eu cefnogaeth fel y gellir sefydlu grŵp o’r enw ‘YR APÊL HOSBIS CAERFYRDDIN Â’R CYLCH’ ac fe’i cofrestrwyd felly gyda’r Comisiwn Elusennau yn 1993. Sefydlwyd cyfansoddiad a penodwyd saith o ymddiriedolwyr gyda phwyllgor codi arian o tua 20. Y gobaith oedd cael hosbis gyda gwelyau ac fe gafwyd trafodaeth gyda’r Ymddiriedolaeth Iechyd oedd i gael ar y pryd. Ond nid oedd hyn am ddigwydd, gan fod hosbis gyda gwelyau yn cael ei sefydlu yn barod yn Llanelli ond cytunwyd i gael Hosbis Dydd a phrynwyd yr adeilad o’r enw ‘Crossways’ yn wreiddiol ar Heol Bronwydd gan yr Ymddiriedolaeth. Talodd yr Apêl am yr holl addasiadau a gostiodd £200,000. Gwasanaethodd Hazel fel Llywydd, Ymddiriedolwraig a Chadeirydd am nifer o flynyddoedd nes iddi orfod ymddiswyddo yn 2004 oherwydd gwaeledd. Yn anffodus, bu farw ym mis Hydref 2005. Cofir ei chyfraniad tra bo’r hosbis yn bodoli. Comisiynwyd llun o Hazel ar gyfer Agoriad Swyddogol y Tŷ Cymorth newydd.Tynnodd Amy Davies, wyres Della Evans, un o’r aelodau pwyllgor gwreiddiol, y braslun. Fe’i cyflwynwyd wedyn gan Della Evans, a gellir ei weld yn awr yn y derbynfa yn yr hospis newydd. |
Della Evans yn dal y portread o Hazel
|